Argraffu 3D
-
Mae CBM yn arloesi gyda meddalwedd dylunio cyfrifiadurol, argraffu 3D a thechnoleg sganio 3D optegol i ddarparu’r technegau gweithgynhyrchu mwyaf blaengar sydd ar gael.
Mae gweithdai mewnol CBM yn defnyddio llwyfannau technoleg blaenllaw i alluogi cynhyrchu prototeipiau a symiau bach o gydrannau yn gyflym mewn amrywiaeth o bolymerau a metelau.
Rydym yn awdurdod blaenllaw yn y diwydiant gweithgynhyrchu uwch, ac mae gennym dîm hynod fedrus o dechnegwyr a modelwyr dylunio cyfrifiadurol sy’n galluogi CBM i sicrhau atebion cyflym, cywir a chost-effeithiol i’ch gofynion gweithgynhyrchu yn yr amserau byrraf posibl.
Mae gweithdrefnau a phrosesau rheoli ansawdd manwl CBM yn sicrhau bod ein cynnyrch o’r safon gorau posibl.
Mae’r gwasanaethau a ddarparwn yn hanfodol i lawer o’n cleientiaid.
Gweithgynhyrchu Adiol
-
SLA 5000
Stereolithograffeg (SLA) Fformat Mawr
Gydag amlen adeiladu mawr o 508 x 508 x 584mm – Trwch haen safonol 0.1mm, Diffiniad eithaf trwch haen 0.05mm – Gall SLA 5000 CBM gynhyrchu modelau 3D mawr cost-effeithiol yn yr amserau byrraf posibl. Defnyddir deunydd adeiladu rhagorol Somos Watershed XC Clear, sy’n dangos priodoleddau sy’n dynwared plastigau peirianneg traddodiadol fel ABS. Mae’r deunydd wedi’i ardystio hefyd i safon USP VI o ran biogydnawsedd ac fe’i defnyddir yn helaeth ar gyfer cynhyrchu modelau lab o’r genau a’r wyneb a modelau deintyddol manwl ar gyfer pontydd a dannedd gosod.
SLA 250 2x
Stereolithograffeg (SLA) Fformat Canolig
Mae gan CBM ddau SLA 250. Gydag amlen adeiladu 250 x 250 x 250mm – Trwch haen safonol 0.1mm – mae CBM yn cynnig y deunydd SLA diweddaraf un gan Somos, PerForm. Mae’r deunydd arloesol hwn yn gryf a gwydn ac yn dangos priodoleddau tebyg i gerameg. Mae PerForm yn addas iawn ar gyfer cymwysiadau anodd â llwyth mawr, tymheredd uchel. Defnyddir y deunydd yn helaeth gan ein cleientiaid ar gyfer profion twnnel gwynt a chreu cydrannau cymhleth yn gyflym i’w defnyddio mewn amgylcheddau anodd fel dan fonet.
ProJet 3500 HDMAX
Technoleg Jet Lluosog gyda’r Gorau yn y Diwydiant
Mae gan ProJet 3500 HDMAX CBM amlen adeiladu 298 x 185 x 203mm. Mae ei allu atgynhyrchu gyda’r gorau yn y diwydiant a gall gynhyrchu trwch haen i lawr i 16μ ac 1600dpi. Yn ogystal â’i ddeunydd dynwared ABS safonol Crystal, gall ProJet adeiladu hefyd â Pro-Cast sydd wedi’i ddatblygu’n benodol ar gyfer cynhyrchu patrymau buddsoddi ar golled. Oherwydd galluoedd adeiladu manwl gywrain y dechnoleg hon mae modd bellach creu geometregau nad oedd yn bosibl gynt wrth ddefnyddio dulliau traddodiadol.
Lawrlwytho
-
Taflenni Data Technegol pob resin a ddefnyddiwn gyda’n hargraffwyr 3D.