Cysylltu
Cysylltwch â CBM i drafod prosesau gweithgynhyrchu arloesol a gwasanaethau rheoli cynhyrchu.
Yn ein gweithle yng nghanol bwrlwm Ardal Arloesi Glannau Abertawe, canolbwyntiwn ar ddatblygu ffyrdd creadigol o gymhwyso technolegau uwch i’r sectorau peirianneg feddygol, aerofod, crefft a modurol.
Mae CBM yn cynnig amrediad eang o wasanaethau, gan arloesi ym maes cynhyrchu digidol, argraffu 3D a sganio 3D. Mae ein prosesau mewnol ar gyfer gweithgynhyrchu ac ôl-beirianneg uwch, ynghyd â’n tîm hynod fedrus o dechnegwyr a modelwyr dylunio cyfrifiadurol, yn galluogi CBM i sicrhau atebion cyflym, cywir a chost-effeithiol i’ch gofynion gweithgynhyrchu, a hynny yn yr amserau byrraf posibl.
Mae gan aelodau ein tîm gyfanswm o dros 50 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector technoleg gweithgynhyrchu uwch, ac mae gweithdrefnau a phrosesau rheoli ansawdd manwl CBM yn sicrhau bod ein cynnyrch o’r safon orau bosibl.
Cysylltwch â CBM am wasanaeth personol y gallwch ddibynnu arno bob tro.